Ar ôl blwyddyn lle mae tywydd eithafol wedi bod yn y penawdau yng Nghymru dro ar ôl tro, mae canfyddiadau o arolwg diweddar gan Beaufort yn archwilio profiadau pobl, lefel eu pryder a beth yn eu barn nhw fydd y risgiau mwyaf sylweddol dros y degawd nesaf.
Dyw tywydd eithafol heb fod ymhell o'r newyddion yng Nghymru dros y 12 mis diwethaf, o draweffeithiau Storm Austen a storm Boelo ddiwedd fis Hydref i wres anarferol yn yr haf, sychder a thanau gwyllt mawr. Yn y cyd-destun hwn, aethom ati yn Omnibws Cymru mis Medi i archwilio profiadau a barn pobl o dywydd eithafol ar hyd a lled Cymru, a rhai o'r gwahaniaethau rhwng grwpiau a rhanbarthau.
Holwyd sampl cynrychioladol cenedlaethol o 1,000 o oedolion yng Nghymru gennym rhwng 21 Medi a 11 Hydref. Dywedodd tua hanner (51%) eu bod wedi eu heffeithio'n bersonol gan wres eithafol yng Nghymru yn ystod y 12 mis blaenorol. Cafodd tanau gwyllt neu danau glaswellt eu crybwyll gan 17%, sychder neu brinder dŵr gan 12%, llifogydd gan 7% a difrod stormydd gan 6%. Dywedodd ychydig dros draean (37%) nad oeddent wedi profi yr un o'r rhain.
Cymoedd De Cymru yn cael eu taro waethaf gan danau gwyllt
Mae yna rai gwahaniaethau rhanbarthol y tu ôl i'r ffigyrau cenedlaethol fel y gallem ddisgwyl. Dywedodd bron i draean (31%) o bobl yn y Cymoedd eu bod wedi eu heffeithio'n bersonol gan danau gwyllt neu danau glaswellt, o'i gymharu gyda 17% ar draws Cymru. Mae hyn yn dilyn haf lle roedd prif ddigwyddiadau tanau gwyllt yn cynnwys Mynydd Llanwonno yn Rhondda Cynon Taf a Chronfa Ddŵr Llangynidr ger Glynebwy.
Gwelir gwahaniaeth rhanbarthol arall mewn sychder: dywedodd 20% yng nghanolbarth/gorllewin Cymru eu bod wedi'u heffeithio gan sychder neu brinder dŵr, o'i gymharu gyda 12% yn genedlaethol.
Mae yna bryder dros ardaloedd eang, ond nid yw wedi'i rannu'n gyfartal
Roedd bron i dri chwarter y rhai a gafodd eu cyfweld (72%) yn bryderus iawn neu'n eithaf pryderus ynghylch tywydd eithafol megis llifogydd, gwres mawr a sychder yng Nghymru. Nid oedd chwarter (25%) yn bryderus, fodd bynnag.
Ymysg menywod, roedd 78% yn bryderus o'i gymharu gyda 66% o ddynion. Gwahaniaeth amlwg arall sy'n ymddangos ymysg pobl sydd â salwch sy'n cyfyngu ar fywyd, problem iechyd neu anabledd: Roedd 80% yn bryderus, o'i gymharu gyda 69% o'r rhai heb salwch neu gyflwr.
Mae'r patrwm hwn yn arbennig o ddiddorol yng nghyd-destun tystiolaeth ehangach ynghylch bod yn agored i draweffeithiau hinsawdd. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru'n cydnabod bod pobl gyda chyflyrau iechyd cronig ymysg y grwpiau sy'n neilltuol o agored i effeithiau gwres ar iechyd. Mae gwaith ehangach a gomisiynwyd ar y cyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a Chomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru hefyd wedi tynnu sylw at y potensial i newid hinsawdd atgyfnerthu anghyfartaleddau sy'n bodoli eisoes, a phwysigrwydd ystyried sut y gallai traweffeithiau yn y dyfodol amrywio ar draws y boblogaeth.
A yw'r tywydd diweddar wedi newid lefel pryderon pobl?
I'r rhan fwyaf ohonynt, do. Dywedodd chwech allan o ddeg ohonynt (60%) bod y tywydd eithafol diweddar wedi'u gwneud yn fwy pryderus ynghylch newid hinsawdd, gyda 32% yn dweud nad oedd wedi gwneud unrhyw wahaniaeth a dim ond 5% yn dweud ei fod wedi eu gwneud yn llai pryderus.
Roedd oedolion ifanc yn neilltuol o debygol o adrodd am bryder cynyddol: Dywedodd 66% o bobl 16 i 34 oed eu bod yn fwy pryderus nawr o'i gymharu gyda 56% o rai 55 oed a hŷn. Roedd menywod hefyd yn fwy tebygol na dynion o ddweud hyn, sef 65% ohonynt o'i gymharu gyda 54%.
Beth, meddai pobl, yw’r rheswm dros dywydd eithafol ?
Y farn fwyaf cyffredin oedd bod tywydd eithafol yn adlewyrchu cyfuniad o newid hinsawdd a achoswyd gan ddyn a phatrymau tywydd naturiol, sef 43%. Roedd traean (33%) yn credu mai amgylchiadau tywydd eithafol oedd yn fwyaf cysylltiedig i newid hinsawdd fod wedi'i achosi gan weithgarwch dynol, tra bod 17% yn credu eu bod yn bennaf oherwydd patrymau tywydd naturiol.
Unwaith eto, roedd amrywiaeth rhwng grwpiau. Roedd ymatebwyr ABC1 yn fwy tebygol nag ymatebwyr C2DE i briodoli tywydd eithafol yn bennaf i newid hinsawdd a achoswyd gan ddyn (37% o'i gymharu gyda 27%), fel ag yr oedd pobl gyda salwch sy'n cyfyngu, problem iechyd neu anabledd o'i gymharu gyda rhai sydd gyflyrau o’r fath (41% o'i gymharu gyda 29%).
Beth sy'n poeni pobl ynghylch y degawd nesaf?
Pan ofynnom i bobl edrych i’r dyfodol, roedd tanau gwyllt yn dod ar frig y rhestr o beryglon oedd yn gysylltiedig gyda'r hinsawdd yr ystyriwyd eu bod yn fygythiad i Gymru dros y deng mlynedd nesaf, a chafodd hyn ei ddewis gan 62% ar draws Cymru. Roedd hyn yn codi i 74% yng nghymoedd de Cymru, lle roedd 31% wedi'u heffeithio'n bersonol gan danau gwyllt neu danau glaswellt yn ystod y 12 mis blaenorol.
Dewisodd oddeutu'r un gyfran brisiau cynyddol bwyd oedd yn gysylltiedig gyda thraweffeithiau hinsawdd (61%), wedi'i ddilyn gan wres mawr (57%). Roedd dros hanner wedi adnabod colli bywyd gwyllt a chynefinoedd naturiol (54%) a sychder neu brinder dŵr (52%).
Un canfyddiad sy'n drawiadol yw bod llai na hanner o'r rhai a holwyd (48%) wedi adnabod llifogydd fel perygl sylweddol. Mae hynny er gwaethaf yr atgofion diweddar o'r difrod y gall llifogydd eu hachosi, gan gynnwys traweffaith stormydd diweddar. Mae Canllawiau Llywodraeth Cymru hefyd yn rhybuddio bod disgwyl i newid hinsawdd gynyddu'r perygl o lifogydd dros y degawdau sydd i ddod, wrth i lawogydd trwm ddigwydd yn amlach, a lefel y môr godi.
Rhaid ystyried ychydig o gyd-destun pwysig. Roedd ein cwestiwn yn canolbwyntio'n benodol ar y deng mlynedd nesaf, tra rhagwelir y bydd rhai o'r newidiadau a amlygwyd gan Lywodraeth Cymru'n ymddangos dros gyfnod hirach. Roedd y canlyniadau hefyd yn dilyn haf eithriadol lle roedd tanau gwyllt yn arbennig o amlwg.
Mae amlygrwydd pryder ynghylch prisiau bwyd yn codi yn ddiddorol yn ogystal. Roeddent yn cael eu hystyried yn fygythiad sylweddol gan bron cymaint o bobl a oedd yn ystyried y bygythiad tanau gwyllt, gan ddangos bod pryderon pobl yn ymestyn y tu hwnt i ddigwyddiadau tywydd neilltuol i oblygiadau posib hynny ar gostau byw o ddydd i ddydd. Mae hyn yn ategu canfyddiadau o'n gwaith ymchwil arall, lle roedd costau byw yn ymddangos yn glir fel prif flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru dros y 12 mis nesaf.
Gwytnwch ac anghyfartaledd
Mae gan y gwahaniaethau hyn gyd-destun polisi ehangach hefyd yng Nghymru. Mae Strategaeth Addasu i'r Hinsawdd ar gyfer Cymru yn rhoi cyfiawnder cymdeithasol ochr yn ochr â risgiau corfforol o wres, sychder, tanau gwyllt a llifogydd. Mae Deddf Lleisant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) yn atgyfnerthu'r dull ehangach hwnnw. Mae ei ffyrdd o weithio'n cynnwys meddwl yn yr hirdymor, atal a swyddogaeth pobl tra bod ‘Cymru fwy Cydnerth’ a ‘Chymru Decach’ ymysg ei saith nod llesiant.
Mae deall sut mae pobl yn ystyried y risgiau hyn yn rhan bwysig o'r darlun. Gall archwilio sut mae gwahanol gynulleidfaoedd yn ystyried eu bregusrwydd eu hunain, a beth sy'n dylanwadu ar eu parodrwydd neu eu gallu i baratoi, ddarparu dealltwriaeth werthfawr i sefydliadau sy'n datblygu cyfathrebiadau a gwasanaethau er mwyn helpu pobl i baratoi ar gyfer tywydd eithafol.
[Mae Omnibws Cymru yn darparu sylwadau craff rheolaidd ar y farn gyhoeddus ar draws Cymru, gan gynnwys sut mae profiadau ac agweddau'n amrywio rhwng grwpiau demograffig a gwahanol rannau o'r wlad. Dysgwch fwy ynghylch rhoi eich cwestiynau chi ar yr Omnibws Cymru nesaf.]
Pennir dosbarthiad economaidd-gymdeithasol drwy sefydlu teitl swydd a safle unigolyn, a diffinnir y graddau cymdeithasol fel a ganlyn:
AB: Galwedigaethau rheoli, gweinyddol a phroffesiynol uwch a chanolradd
C1: Galwedigaethau goruchwylio, clerigol a rheoli, gweinyddol a phroffesiynol iau
C2: Gweithwyr llaw medrus
DE: Gweithwyr llaw lled-fedrus a di-grefft, pensiynwyr y wladwriaeth, gweithwyr achlysurol a gweithwyr ar y graddau isaf, a phobl ddi-waith sy'n dibynnu'n unig ar fudd-daliadau'r wladwriaeth
Oes gennych chi her ymchwil neu angen mewnwelediad i lunio'ch strategaeth? Gadewch i ni siarad! Yn Beaufort Research, rydym yn ffynnu ar droi eich cwestiynau yn atebion ystyrlon sy'n ysgogi gweithredu.