OUR TEAM

Rhys Hayward

Uwch-swyddog Ymchwil

Ar ôl cwblhau ei MSc mewn Marchnata ym Mhrifysgol Caerfaddon, dechreuodd Rhys ei yrfa ym maes ymchwil y farchnad gyda Savanta, gan ymuno â’i Dîm Cyfoeth fel Swyddog Ymchwil. Yno, bu’n ymchwilio i unigolion gwerth net uchel ac uwch rhoolwyr mewn sectorau nwyddau moethus a rheoli cyfoeth.

Ers hynny, mae wedi meithrin sylfaen gadarn mewn dulliau ymchwil meintiol ac ansoddol, gan gefnogi gweithrediadau o ddydd i ddydd, cynnal gwaith maes gyda chynulleidfaoedd uwch ac anodd eu cyrraedd, a dadansoddi canlyniadau sy’n helpu i lywio penderfyniadau busnes pwysig.

Ymunodd Rhys â Beaufort er mwyn canolbwyntio ei waith ymchwil ar Gymru, gan weithio yn y wlad y mae’n ei charu a chyfrannu ati. Mae’n dysgu Cymraeg, ac un o’i nodau oes yw gallu gwneud ei waith drwy gyfrwng y Gymraeg.

Y tu allan i’r gwaith ymchwil, mae Rhys yn treulio’r rhan fwyaf o’i amser yn teithio ledled y wlad i wylio Dinas Caerdydd, yn chwarae padel gyda’i ffrindiau, neu’n hyfforddi ar gyfer y flwyddyn y mae’n llwyddo o’r diwedd i sicrhau lle ym Marathon Llundain!

Newyddion blaenllaw

Newyddion diweddaraf

Daliwch i fyny ar ein newyddion a blogiau

17.8.2026
Y 100 diwrnod cyntaf: beth mae Cymru yn ei feddwl o Lywodraeth newydd Plaid Cymru?

Nid yw 100 diwrnod cyntaf unrhyw lywodraeth newydd fel arfer yn ddigon o amser

Darllenwch fwy >
28.7.2026
Mae ansicrwydd economaidd a costau yn pwyso ar fusnesau Cymru

Mae mwy na hanner busnesau Cymru (52%) yn disgwyl i’r sefyllfa economaidd

Darllenwch fwy >
21.7.2026
Mae'r rhan fwyaf o bobl yn meddwl bod bwyd Cymreig o ansawdd uchel – ond allant enwi brand Cymreig?

Mae ein hymchwil yn awgrymu efallai nad yw brandiau unigol yn elwa o…

Darllenwch fwy >

Gadewch i ni siarad

Oes gennych chi her ymchwil neu angen mewnwelediad i lunio'ch strategaeth? Gadewch i ni siarad! Yn Beaufort Research, rydym yn ffynnu ar droi eich cwestiynau yn atebion ystyrlon sy'n ysgogi gweithredu.

Gadewch i ni siarad
Trwy glicio “Derbyn”, rydych yn cytuno i storio cwcis ar eich dyfais i wella llywio'r safle, dadansoddi defnydd o'r safle, a chynorthwyo ein hymdrechion marchnata. Gweler ein Polisi Preifatrwydd am ragor o wybodaeth.